Yn ôl Ross Griffiths, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), mae’r cyhoeddiad yn achos pryder i fyfyrwyr.
“Mae’n gyfnod anodd iawn i’r brifysgol, ond dydy o ddim yn fater y mae Bangor yn ei wynebu ar ben ei hun – mae’n fater sy’n effeithio ar y sector yn gyfangwbl,” meddai.
“… Mae ‘na lot o bryderon am gyrsiau, os ydy pethau’n stopio yna beth sy’n digwydd i raddau pobl? Beth sy’n digwydd i safon darlithwyr?
“Ond hefyd, mae ‘na gwestiwn o ran ydy myfyrwyr yn cael gwerth eu pres, yn enwedig efo dyled pawb yn codi.”
Ychwanegodd fod ‘na ddyletswydd ar y brifysgol i amddiffyn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru er gwaetha’r heriau ariannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

