“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn”, meddai’r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, Gareth Williams.
“Stad o dai fforddiadwy yma yn Aberdaron, ond erbyn rŵan mae’r tai wedi eu codi a ‘dan ni’n gwybod fod chwech allan o’r wyth tŷ yn mynd i fod yn dai rhent cymdeithasol a dim amod lleol, dim amod ieithyddol a’r cwestiwn felly ydi be ydi lleol?
“Yn llygaid Cyngor Gwynedd dyna oedd y tai i fod, i bobl leol ar gyfer yr argyfwng ‘dan ni’n ei wynebu.
“Ond rŵan mae’r teuluoedd lleol sy’n aros am dŷ, sy’n deseprate, yn cael gwybod na fydda nhw’n gymwys.”
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r Polisi Gosod Tai Gyffredin yn blaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf am dai yng Ngwynedd ac mae’r cyngor wedi “mynd hyd eithaf” ei allu i sicrhau bod y polisi yn rhoi blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion lleol.

