Ond be sy’n ‘neud stryd yn cŵl? Bob blwyddyn mae cylchgrawn Time Out yn gofyn i olygyddion ac arbenigwyr i ymweld ag ardaloedd ar draws y byd ac yna mae yna gryn ddadlau pwy sydd ar frig y rhestr.
“O Lundain i Leipzig, ac o Muscat i Medellin mae’r strydoedd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn dangos yr amrywiaeth sy’ ‘na,” meddai llefarydd ar ran Time Out.
“I gyrraedd y brig mae’r tîm yn asesu bwyd, diod, siopau, bywyd nos a busnesau gwbl unigryw.”
Song Wat Road yn Bangkok oedd ar frig y rhestr, Golborne Road yn Llundain yn ail a Fernández de Enciso yn Buenos Aires yn drydydd.
Roedd y beirniaid eleni yn amlwg wedi dotio ar amrywiaeth unigryw Heol Maengwyn ac roedd yna sylw hefyd i’r farchnad sy’n cael ei chynnal ar y stryd bob dydd Mercher.

