‘Mae’r holl beth yn ffres eto’: Ymateb cyn-weithwyr i ddrama Y Streic Fawr

america news 24 evidenza

Fe wnaeth y bennod gyntaf fodloni John.

“Oedd o’n dda iawn. Oeddach chi’n gallu dilyn yr hanes, ac oedd o’n eich tynnu chi i mewn, a’r ochr dda a’r ochr ddrwg yn dod drosodd,” meddai.

Roedd yn brofiad go ryfedd iddo ei wylio hefyd, gan mai cymeriad yn seiliedig ar John yw un o brif gymeriadau’r ddrama, â’r actor Rhys ap Trefor yn ei bortreadu.

Sut oedd John yn teimlo wrth wylio Rhys yn actio ei ran?

“Fel maen nhw’n deud yn Saesneg, ‘he looked more handsome than I do‘,” chwarddodd.

“Ond pan neshi gyfarfod Rhys am y tro cyntaf yng Nghaernarfon yn cael coffi a chinio dyma fi’n gofyn iddo fo yn y diwadd, ‘Duw be ydi pwrpas hyn?’.

“A ddudodd o, ‘dwi ‘di bod yn dilyn chdi drwy’r dydd’, ac i fod yn onast dwi’n meddwl fod o ‘di nghael i ar honna de. Mae o’n wych.

“Dwi’n gobeithio y bydd y ddrama yn dysgu rwbath i bobl ifanc heddiw pa mor bwysig ydi undeb, a chael undeb sydd yn ddigon cryf i sefyll i fyny’n erbyn y cwmnïau mawr yma.”

Source link

Scroll to Top