Cafodd sawl ffordd yn yr ardal eu cau i’r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad brynhawn Gwener, cyn ailagor ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu’r De nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw anafiadau yn gysylltiedig â’r digwyddiad, ac nad oedd unrhyw fygythiad ehangach i’r cyhoedd.
Aelodau Tîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr Heddlu De Cymru sy’n arwain yr ymchwiliad.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones: “Mae ein hymchwiliad, sy’n cynnwys timau o dditectifs a staff arbenigol, yn parhau.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn brin, ond rydym yn gwerthfawrogi eu bod yn achosi cryn bryder mewn cymunedau lleol.
“Bydd presenoldeb amlwg yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i swyddogion barhau â’u hymholiadau a rhoi sicrwydd i drigolion lleol.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi cynorthwyo ein hymchwiliad hyd yma.”
Mae swyddogion yn dal i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau dashcam, teledu cylch cyfyng neu ffôn symudol a allai helpu’r ymchwiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

