Dywedodd Craig Stephenson, sy’n aelod o Gôr Hoyw De Cymru, eu bod wedi bod yn dilyn taith Owain trwy’r wythnos.
“Ni wrth ein boddau i fod fan hyn, ni ‘di bod yn dilyn Owain ar y radio trwy’r wythnos wrth iddo ddod yn agosach i Gaerdydd so pan gatho ni’r gwahoddiad i ganu, natho ni ddewis cân Bonnie Tyler,” meddai.
“Mae popeth Cymreig yn dod at ei gilydd, so ma fe’n ddiwrnod hanesyddol a ni’n hapus iawn i fod fan hyn heddiw.”
Dywedodd bod Owain yn “teimlo’n rhan o’n cymuned ni”.
“Ni’n ffans ohono fe, so oedd e fel rhyw fath o cheer mawr, a mae’n gyfle gwych i ni, ac yn baltfformn da i’r côr,” meddai.
“Ni’n perfformio mewn lot o bethau cwiar hefyd so ni’n neud pwynt o wneud hynny fel rhan o’n gwerthoedd ni fel côr.
“Ni’n canu cân Bonnie Tyler ‘I Need a Hero’ ac wrth gwrs mae Owain yn arwr mawr, y siwrne mae wedi bod arno yr wythnos yma wedi codi dros £2m, ma fe’n arwr felly dwi’n hapus i ganu’r gân yna.”

