Merched o’r gogledd am droi profiadau anodd canser yn rhai cadarnhaol

america news 24 evidenza

Yn ôl Sally Roberts sy’n ffotograffydd o Dremeirchion ac yn sylfaenydd y calendr Breast Friends, mi wnaeth yr uned “achub ei bywyd” ar ôl iddi gael canser ddwywaith.

Cafodd Sally driniaeth, fel y menywod eraill, yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r calendr yn “ymwneud â chyfeillgarwch, gwytnwch, codi ymwybyddiaeth o ganser y fron ac, yn bwysicaf oll, codi arian i gefnogi’r gwasanaethau canser anhygoel sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a’u teuluoedd,” meddai Sally.

“Dechreuodd fy nhaith fy hun gyda chanser y fron yn 2022. Cefais fastectomi, cemotherapi, therapi wedi’i dargedu a therapi hormonau, gan gredu fy mod wedi dod drwy’r gwaethaf. “

Yn anffodus, tua blwyddyn ar ôl gorffen ei thriniaeth gychwynnol, daeth y canser yn ôl mewn ffurf llawer mwy ymosodol, gan effeithio ar 15 nod lymff, yn ogystal â’r croen a’r cyhyrau oedd yn golygu rhagor o gemotherapi, therapi wedi’i dargedu a radiotherapi.

Ychwanegodd Sally “rwy’n wirioneddol gredu mai’r tîm gwych yn Uned Ganser Glan Clwyd a achubodd fy mywyd.

“Ar ôl profi’n uniongyrchol pa mor bwysig yw gofal canser lleol o’r safon uchaf, roeddwn am roi rhywbeth yn ôl.”

Source link

Scroll to Top